pexels-haley-black-2087391.jpg

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn arwain ar gyflwyno cyfleoedd datblygiad personol a phroffesiynol dramor ar gyfer dysgwyr a staff addysg bellach. Erasmus+ oedd un o’r prif ffynonellau cyllid o 2011-2020. Ers gadael yr UE, mae ColegauCymru Rhyngwladol bellach yn gwneud cais am gyllid drwy raglen cyfnewid tramor Llywodraeth Cymru, Taith, a rhaglen symudedd Llywodraeth y DU, Cynllun Turing.

 

 

 

Dysgwyr
Gwnaeth ColegauCymru Rhyngwladol gais am gyllid Erasmus+ ar ran colegau addysg bellach Cymru drwy ei geisiadau consortia Cymru gyfan. Darparodd y ceisiadau hyn gyfleoedd i ddysgwyr a phrentisiaid ymgymryd â lleoliadau gwaith pythefnos ledled Ewrop. Roedd y lleoliadau gwaith yn gydnaws â’r cymwysterau a oedd yn cael eu hastudio gan y dysgwyr yng Nghymru ac yn cynnig profiadau newid bywyd i bobl ifanc nad ydynt efallai erioed wedi ystyried cyfleoedd cyflogaeth y tu allan i Gymru.

Rhwng 2014 a 2020 (cylch olaf Erasmus+ o geisiadau ar gael i sefydliadau yn y DU), gwnaeth ColegauCymru Rhyngwladol gais llwyddiannus am €6.9m a ddarparodd hyfforddiant tramor a chyfleoedd gwaith i bron i 3,000 o ddysgwyr a phrentisiaid ledled Cymru.

Dysgwyr a staff ar fuddion lleoliadau gwaith yn Ewrop

Staff 
Gwnaeth ColegauCymru Rhyngwladol hefyd gais am gyllid i gefnogi cyfleoedd DPP dramor ar gyfer darlithwyr addysg bellach, arweinwyr a staff cymorth. Roedd yr ymweliadau hyn yn cydnabod gwerth dysgu gan eraill gan roi cyfle i'r cyfranogwyr gael cipolwg ar arfer da a syniadau newydd o wledydd eraill yr UE.

Rhwng 2014 a 2020, llwyddodd ColegauCymru Rhyngwladol i wneud cais am €209,000 a gefnogodd 151 o staff addysg bellach i gymryd rhan mewn 9 ymweliad staff â’r gwledydd canlynol: 

  • 2014 - Helsinki, y Ffindir (Gwella llythrennedd a rhifedd mewn lleoliad galwedigaethol)
  • 2015 - Gwlad y Basg, Sbaen (Arloesi mewn VET a chefnogi busnesau bach a chanolig)
  • 2016 - Catalwnia, Sbaen (Amlieithrwydd ac ymgysylltu â chyflogwyr)
  • 2017 - Sonderborg, Denmarc (Sgiliau lefel uwch mewn lleoliad addysg bellach)
  • 2018 - Helsinki, y Ffindir a Pistoia, yr Eidal (Rhyngwladoli yn VET)
  • 2019 - Baden-Wuerttemberg, yr Almaen (Digitaleiddio VET)
  • 2020 - Fienna, Awstria ac Oslo, Norwy (Proffesiynoldeb deuol staff VET)

Yn ogystal â staff colegau addysg bellach, mae cynrychiolwyr o Estyn, Llywodraeth Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi cymryd rhan yn yr ymweliadau tramor hyn sydd wedi rhoi cyfleoedd i gasglu tystiolaeth, syniadau ac arfer da gan dramor i gefnogi gwelliannau ar lefel strategol i strwythurau addysg a hyfforddiant galwedigaethol Cymru.

Gwybodaeth Bellach

I ddarganfod mwy o raglenni sy'n cymryd lle Erasmus+ yng Nghymru, ewch Taith neu The Turing Scheme

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Vicky Thomas, Swyddog Prosiect 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk 

Tudalennau cysylltiedig

Cynllun Turing Taith Erasmobility Cyfleoedd Dramor

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.