Europe Map.png

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn cynrychioli colegau addysg bellach ar gynghorau a grwpiau rhanddeiliaid yng Nghymru a'r DU. Rydym yn lledaenu gwybodaeth a chyfleoedd o'r grwpiau hyn i'n haelodau. Gall y cyfleoedd hyn fod yn gysylltiedig â phartneriaethau masnachol, wedi'u hariannu a/neu gydweithredol dramor.

 

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn aelod o Bartneriaeth Sgiliau'r DU (UKSP) sy'n grŵp unedig o ddarparwyr Addysg Dechnegol a Galwedigaethol (TVET) a chyflenwyr yn y DU. Mae'r Partneriaid yn cydweithredu â datblygu busnes rhyngwladol a chyflawni prosiectau trwy gyflwyno cynnig sgiliau cynhwysfawr a chydlynol sydd wedi'i deilwra yn benodol ar gyfer anghenion cleientiaid rhyngwladol.

Rydym hefyd yn gweithio gyda rhwydweithiau colegau eraill ledled y byd trwy ein haelodaeth o World Federation of Colleges and Polytechnics. Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn aelod o'r grwpiau affinedd Datblygiad Dinasyddiaeth Fyd-eang a Datblygiad Proffesiynol Athrawon.

 

Rydym yn gweithio'n agos gyda British Council Cymru a'i dîm sgiliau’r DU British Council Skills and Employability sy'n cefnogi ein haelodau i fanteisio ar ei rwydwaith fyd-eang o bartneriaethau a rhaglenni.

 

 

Ymhellach, rydym yn gweithio'n agos gyda Llwybrau at Ieithoedd Cymru i hybu gweledigaeth, defnydd a phroffil ieithoedd mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru. 
 

 

Cysylltwch

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Vicky Thomas, Swyddog Prosiect 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.