International Benchmarking page Website Banner.png

Mae angen i ddysgwyr, athrawon, hyfforddwyr a gweithwyr allu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i astudio, hyfforddi a gweithio mewn gwledydd eraill. I wneud hyn yn llwyddiannus, mae'n bwysig bod y cymwysterau a'r profiadau a gafwyd yng Nghymru yn cael eu cydnabod mewn gwledydd eraill. Yn yr un modd, mae angen cydnabod y cymwysterau a'r profiad a gafwyd wrth weithio ac astudio mewn gwledydd eraill yng Nghymru.

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn gweithio gyda phartneriaid ledled y DU ac mewn gwledydd eraill i ddatblygu ymddiriedaeth ac i roi hyder yn ansawdd rhaglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol lle bynnag y'u darperir.

Mae'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau ar gyfer Cymru (FfCChC) yn un o'r prif feincnodau ansawdd ar gyfer addysg a hyfforddiant yn y wlad hon. Mae ColegauCymru Rhyngwladol wedi gweithio gyda phartneriaid yn y DU ac Ewrop i sicrhau bod y FfCChC wedi cael ei gyfeirio at mewn fframweithiau cymwysterau eraill yn Ewrop trwy'r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (FfCE). Mae'r FfCE, yn ei dro, yn parhau i gefnogi cyfeiriadau gyda fframweithiau ledled y byd.

Mae ColegauCymru Rhyngwladol hefyd yn cefnogi cryfhau ac ehangu'r defnydd o'r FfCChC i gydnabod dysgu blaenorol ymfudwyr gorfodol i gael mynediad at addysg a hyfforddiant priodol.

Mae Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd mewn Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (EQAVET) yn fenter a ddyluniwyd i sicrhau y gellir ymddiried yn y trefniadau sicrhau ansawdd ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) er mwyn helpu pobl sydd am barhau ag addysg a hyfforddiant neu i ddefnyddio eu cymwysterau mewn gwledydd eraill. Mae'n helpu i wneud safonau ar draws pob gwlad yn gyson. ColegauCymru Rhyngwladol yw'r Pwynt Cyfeirio Cenedlaethol (NRP) dynodedig ar gyfer EQAVET.


“Mae'n bwysig bod dysgwyr, staff a gweithwyr yn hyderus y bydd y sgiliau a'r cymwysterau y maen nhw'n eu hennill yng Nghymru yn cael eu deall a'u cydnabod ledled y byd ac yn eu galluogi i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ac astudio y tu hwnt i'r DU.”
 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru Rhyngwladol

Cysylltwch

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Vicky Thomas, Swyddog Prosiect 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk 

Tudalennau Cysylltiedig

Alinio FfCChC Cydnabod Dysgu Blaenorol EQAVET

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.