pexels-c-cagnin-2007401.jpg

Cynllun Turing yw rhaglen fyd-eang y DU ar gyfer astudio, gweithio a byw dramor, gan gynnig cyfleoedd unwaith mewn oes ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol i ddysgwyr. 

Lansiwyd y rhaglen yn 2021 ac mae ColegauCymru Rhyngwladol wedi llwyddo i ennill cyllid consortiwm o dros £2m ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru i gynnig profiadau newid bywyd i ddysgwyr a phrentisiaid i hyfforddi, gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith dramor. 

Mae Cynllun Turing yn cydnabod cyfleoedd ehangu mynediad fel blaenoriaeth allweddol ac mae'n mynd ati i dargedu a hyrwyddo'r cynllun i ddysgwyr sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn rhaglenni symudedd tramor. Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn gweithio'n agos gyda’n haelodau i sicrhau bod ein prosiectau'n cefnogi eu cyfranogiad  yn ein gweithgareddau tramor. 

Dywedodd Sian Holleran, Rheolwr Prosiect ColegauCymru Rhyngwladol: 

"Rydym yn falch bod Cynllun Turing yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr addysg bellach hyfforddi, gwirfoddoli ac astudio ar draws y byd. Rydym wedi bod yn hyrwyddo gwerth rhaglenni symudedd i ddysgwyr galwedigaethol ers tro byd ac rydym yn falch o weld y Cynllun yn ehangu cyfranogiad i ddysgwyr Safon Uwch a rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.” 

Gwybodaeth Bellach 

Cynllun Turing 
Rhaglen fyd-eang y DU i weithio ac astudio dramor. Ewch i'r wefan i ddysgu mwy. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o dîm Rhyngwladol ColegauCymru. 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk 

Vicky Thomas, Swyddog Prosiect 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk  

Tudalennau Cysylltiedig

Erasmus+ Taith Erasmobility Cyfleoedd Dramor

"Roeddwn yn gyffrous i gael y cyfle i ddarganfod gwahanol ddiwylliannau a gwella fy sgiliau gwrando a siarad Sbaeneg."

Dysgwr Safon Uwch Sbaeneg
Coleg Catholig Dewi Sant
Cynllun Turing, Mehefin 2022

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.